Mae dwyieithrwydd yn egwyddor sy’n gyffredin ledled y byd, ond sy’n gymharol newydd i ni
yma yng Nghymru. Sawl tro drwy hanes
rydym wedi meddwl fod y frwydr am wasanaethau dwyieithog wedi ei hennill, ac
yna cyhoeddir erthygl fel heddiw i’n hatgoffa ei fod yn frwydr gwbl gyfoes, ac
yn frwydr sydd rhaid ei wynebu yn ddyddiol, hyd yn oed yn 2012.
Disgrifir Martin Shipton cyfieithu i’r Gymraeg fel
‘luxury’. Dwi ddim yn cwestiynu
ymroddiad Martin tuag at ddatganoli, nag ei hygrededd fel newyddiadurwr- rwyf
wedi darllen ei lyfr am ddatganoli ac fe fwynheais yn fawr. Ond mae cyfeirio at
y Gymraeg fel rhywbeth ‘moethus’ yn creu argraff o rywbeth dieithr,
amherthnasol, a rhywbeth sydd yn cael ei gwarchod er lles y breintiedig (y
Cymry dosbarth canol). Ac os mai poeni am wariant cyhoeddus yw’r
pryder, mae sawl ffordd o dorri gwariant - £70bn ar trident, £15bn ar y gemau
Olympaidd, £1.3bn ar y jiwbilî….
O edrych ar y stori o safbwynt anthropolegol, y mae’r hawl i
dderbyn gwasanaethau yn eich mamiaith yn hawl sylfaenol a ddylai cael ei
chynnig i ddinasyddion Cymru. Efallai
mai ond 23-24% sydd yn medru'r Gymraeg, ond mae hyn dal yn nifer sylweddol o’r
boblogaeth. Mae canran dipyn is o’r
boblogaeth yn gaeth i gadair olwyn, ond rydym dal yn darparu rampiau tu allan i
adeiladau a liffts ar eu cyfer. Pam
rydym ni’n gwneud hyn? Am ei fod yn hawl sylfaenol i addasu gwasanaeth oherwydd
bod gan bobl gwahanol anghenion gwahanol.
Dim ond yng Nghymru y mae'r angen i gwestiynu a chyfiawnhau
gwariant ar un o’r ieithoedd cenedlaethol. Y neges sy’n dilyn o hyn i gyd ydi fod yr iaith dal yn gallu
rhannu pobl, lle ddylai iaith fod yn rhywbeth i’w fwynhau ac i uno pobl.
Mae cyfieithu’r dogfennau yma’n debygol o gostio £350,000 y
flwyddyn. Gyda phoblogaeth o 3miliwn,
mae hyn yn gost o 11.6 ceiniog y pen i ddinasyddion Cymru. I’w roi yn ei gyd-destun, fe fyddai bwyta un
Curly wurly neu Chomp y flwyddyn yn costio mwy.
Felly, yn fy marn i mae’r ddadl yn un gwbl glir. Os ydych yn cefnogi'r syniad o ddwyieithrwydd
fe ddylech gefnogi'r cyfan sydd yn dod law yn llaw hefo’r egwyddor. Y Cynulliad yw cartref ein Senedd
genedlaethol, a dyna’r sefydliad uwchlaw unrhyw un arall yng Nghymru a ddylai
fod yn arwain y ffordd i feithrin cenedl fodern, hyderus, dwyieithog. Mae’r dyddiau lle mae Cymry Cymraeg yn gorfod
ymddiheuro am ofyn am y Gymraeg wedi dod i ben, ac efallai y dylai rhywun
egluro hyn i’r Western Mail.